Ymateb i ymgynghoriad ar Isafbris Alcohol

Ymateb ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru. 15fed o Ragfyr 2017

Cwestiwn 1

Rydym o blaid y cynnig i gyflwyno deddfwriaeth ar isafbris alcohol.

Rydym hefyd o’r farn y byddai’r ddeddfwriaeth yn gymorth i gryfhau’r camau presennol a gymerir gan Lywodraeth Cymru leihau defnydd o alcohol.

Cwestiwn 2

Rydym yn fodlon fod y dystiolaeth a gyflwynir yn y Memorandwm Esboniadol o blaid y dibenion a rhestrir yn y cwestiwn yn gywir.

Cwestiwn 3

Cytunwn y byddai gosod isafbris alcohol ar gyfer Cymru’n lleihau’r straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Troseddau

Fe fyddai gosod isafbris am alcohol yn gam pwysig tuag at ostyngiad pellach yn nifer blynyddol y troseddau y credir iddynt eu cyflawni dan ddylanwad alcohol, yn enwedig troseddau treisgar. Yn 2014-2015 adroddodd y ‘Crime Survey for England and Wales’ for dioddefwyr yn credu fod 47% o droseddau treisgar wedi eu cyflawni dan ddylanwad alcohol.

http://www.ias.org.uk/Alcohol-knowledge-centre/Crime-and-social-impacts/Factsheets/Alcohol-related-crime-in-the-UK-what-do-we-know.aspx

Dengys tystiolaeth ddiweddar o Seland Newydd fod pobl sy’n dioddef o Foetal Alcohol Spectrum Disorders 19 gwaith mwy tebygol o fynd i’r carchar am droseddu.

http://www.ias.org.uk/What-we-do/Publication-archive/The-Globe/Issue-1-2013/Children-with-Foetal-Alcohol-Spectrum-Disorder-19-times-more-likely-to-end-up-in-prison.aspx

Cwestiwn 4. Asesiad Effaith/Cydraddoldeb a Cwestiwn 5 ar Blant a Phobl Ifanc

Credwn fod cyflwyno isafbris alcohol yn cyfrannu at strategaeth llywodraeth Cymru i wella iechyd a lles y grwpiau canlynol, ond na roddwyd digon o sylw i hyn yn Asesiad Effaith llywodraeth Cymru yn y ddogfen ymgynghorol.

Priodas, teuluoedd a phlant

Gall alcoholiaeth arwain at dor-priodas a thor-teulu. O ran yr effaith ar deuluoedd, hoffem weld sylw’n cael ei roi ar effaith alchol ar dor-teulu ble mae plant yn dal dan ofal rhieni, ond hefyd effaith alcoholiaeth rhieni ar y nifer blynyddol o blant yng Nghymru a gymerir i fewn i’r system gofal, i gael eu mabwysiadu neu eu maethu.

Hefyd dylai fod pwylsais ar wybodaeth a pholisi o ran effaith alcohol ar drais yn y cartref, yng ngoleuni’r strategaeth genedlaethol er mwyn atal trais yn y cartref a bennir yn y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Trin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.  

Atal Nam ar y Golwg a Nam ar y Clyw

Gall Nam ar y Golwg ddigwydd oherwydd Foetal Alcohol Syndrome. Dylid nodi hyn yn yr Asesiad Effaith ar bobl gyda Nam ar y Golwg, gan y gallai gosod isafbris alcohol arwain at lai o achosion o FAS. Mae’r un peth yn wir am Anabledd Dysgu a Nam ar y Clyw. Er enghraifft, eleni cyhoeddwyd tystiolaeth newydd o Siapan yn dangos y gallai Nam ar y Clyw gael ei achosi gan famau beichiog yn yfed alcohol.

https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/15223541

https://academic.oup.com/alcalc/advance-article-abstract/doi/10.1093/alcalc/agx092/4626776?redirectedFrom=fulltext

Ethnigrwydd a chrefydd

Fe fyddai cyflwyno isafbris alcohol yn helpu o ran berthynas well rhwng pobl o gefndiroedd ethnig a chrefyddol gwahanol, gan fod tystiolaeth fod pobl, yn enwedig pobl ifanc, o leiafrifoedd ethnig a chrefyddol, yn enwedig pobl sy’n ymarfer eu crefydd, yn llai tebygol o yfed alcohol ac o or-yfed. Ar y foment mae diwylliant o gymdeithasu gydag alcohol yn y canol yn eithrio llawer o bobl o wahanol gefndiroedd. Yma ceir arolwg o’r dystiolaeth ar yfed, ethnigrwydd a chrefydd yn y DU (hyd at 2010)

http://eprints.mdx.ac.uk/7951/1/Hurcombe-ethnicity-alcohol-literature-review-full_0.pdf

Cwestiwn 7 (Adran 1)  

Mae’r fformiwla a’r enghraifft yn hawdd i’w deall.

Cwestiwn 8 (Adran 2)   

Cytunwn y dylai manwerthwyr sy’n gwerthu o siop yng Nghymru am bris sy’n is na’r isafbris uned fod yn euog o gyflawni trosedd. Credwn fod isadrannau 3 a 4 yn deg.

Cwestiwn 9 (Adrannau 3 a 4)  

Nid oes llefydd eraill angen eu rhestru.

Cwestiwn 10 (Adran 5)    

Rydym o’r farn fod yr adran yn cwmpasu trafodion yn ddigonol i i sicrhau na chaiff alcohol ei gyflenwi am bris is na’r isafbris uned.   

Cwestiwn 11 (Adrannau 6 a 7)  

Mae’r cosbau hyn yn ddigon teg.

Cwestiwn 12 (Adrannau 8 a 9) 

Rydym o’r farn y byddai darpariaethau adran 8 yn sicrhau’r dibenion perthnasol.

Rydym yn credu y dylai isafbris uned gael ei orfodi gan awdurdodau lleol.

O ran adran 8(3)(a) a (b), cytunwn fod angen swyddog awdurdodedig. Carem wybod beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer disgrifiad swydd y fath swyddog. A fyddai’n gweithio o faes gofal cymdeithasol, neu hefyd yn ymwled ag ysgolion lleol er mwyn gwneud gwaith atal camddefnydd o alcohol?

 

Cwestiwn 13 (adrannau 11-13)  

Cytunwn gyda’r awgrym a roddir yma.

Cwestiwn 14 (adrannau 15 a 16)  

Rydym o’r farn fod adran 15 yn rhoi pwerau priodol i swyddogion awdurdodedig.

Cytunwn gydag adran 16.

Cwestiwn 15 – Atodlen i’r Bil   

Rydym yn fodlon gyda chynnwys yr Atodlen.

Cwestiwn 16 

Monitro effaith y Ddeddf arfaethedig

Cytunwn gyda’r bwriad i fonitro effaith y Ddeddf arfaethedig trwy gyrchu data blynyddol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill. Tybed a yw’n bosib cynhyrchu data ar effaith alcoholiaeth rhieni ar blant, ac unigolion ar drais yn y cartref a thrais yn erbyn menywod.  

Hoffem hefyd argymell ychwanegu data blynyddol ar droseddau y credir iddynt eu hachosi gan effaith alcohol oddi wrth heddluoedd Cymru, arolygon ar droseddu fel y ‘Crime Survey for England and Wales’ a Gwasanaeth Erlyn y Goron.